-
9ed - 12ed Chwefror 2026
-
Roedd safon uchel fy nhaith i Wganda dal yn uchel gyda'r ddau stop olaf... taith wych i Bwindi Impenetrable Forest i wylio gorila mynydd, ac yna ymweliad byr â savanna o Parc Cenedlaethol Llyn Mburo ar fy ffordd yn ôl i'r maes awyr. Mae'n debyg mai'r daith orau dw i erioed wedi'i wneud, gallwch ddarllen yr adroddiad terfynol (yn saesneg) yma...
Gorila Dwyreiniol (Gorilla beringei) yn Bwindi Impenetrable Forest
-
12ed Ebrill 2026
-
Mae'r pumed llyfr yng nghyfres 'Wildlife of the World' nawr ar gael (yn saesneg). Am gwlad mor dechnolegol, mae 'da' Japan amrywiaeth annisgwyl o anifeiliaid, gan gynnwys eirth mawreddog, craeniau sy'n dawnsio, gwiwerod hedfan, mwncïod eira digywilydd a llawer mwy. Mae'r llyfr yn eu dangos yn eu cynefinoedd naturiol, ynghyd â dolenni i lawer o glipiau fideo ar-lein a chyfryngau eraill.
Cliciwch yma i weld mwy o fanylion a rhai tudalennau.

-
7ed - 9ed Chwefror 2026
-
Ar ôl ychydig ddyddiau gwych yn ardal Kibale, y stop nesaf ar fy'n antur Wganda oedd Parc Cenedlaethol Queen Elizabeth. Roedd llawn mamaliaid ac adar; o lewod, hyena a mongŵs i foch coedwig, mwncïod a fwltures... yn ogystal â neidr boomslang gwenwynig iawn!
Gallwch ddarllen adroddiad (yn saesneg) gyda lluniau a fideos yma…

Boomslang (Dispholidus typus) yn bwyta broga
-
3edd - 7ed Chwefror 2026
-
Roedd ail cymal fy nhaith i Wganda cymryd lle mewn ardal Parc Cenedlaethol Kibale. Wedi'i bilio fel 'Prifddinas Primat y Byd', a gyda rheswm da... gyda wyth rhywogaeth wahanol gan gynnwys ein perthynas agosaf y tsimpansî, sy'n rhywogaeth mewn perygl.
Darllenwch adroddiad (yn Saesneg) ar fy ymweliad yma…

Tsimpansî (Pan troglodytes) ym Mharc Cenedlaethol Kibale, Wganda
-
2ail Chwefror 2026
-
Mis Chwefror dychwelais i un o fy'n hoff wledydd ar gyfer bywyd gwyllt... Wganda! Roedd yn ymweliad byr ond gwych yn tynnu lluniau o lewod, gorilas, tsimpansîaid a llawer o fywyd gwyllt arall, gan gynnwys y ciconia pig esgid rhyfedd islaw.
Cliciwch yma am adroddiad ar gam cyntaf fy nhaith... ymweliad â Llyn Victoria (yn Saesneg).

Ciconia Pig Esgid (Balaeniceps rex) yn Llyn Victoria
-
11ed - 20ed Hydref 2025
-
Roedd cam olaf fy'n antur yn Indonesia yn cynnwys ymweliadau byr â'r thair ynys o Jawa, Flores a Comodo. Er nad oedd yn union beth wedi'i addo gan fy tywywr lleol dodgy, cefais dynnu lluniau o adar prin braf a fideo'r Dreigiau Comodo anhygoel hyn!
Adroddiad llawn (yn Saesneg) yma...
Draigiau Comodo (Varanus komodoensis) ar Ynys Comodo
-
6ed - 10ed Hydref 2025
-
Yn dilyn wythnos gwych o gerdded mynyddoedd, y cam nesaf yn fy antur Papuan oedd mynd yn ôl i'r arfordir am fferi lleol i Ynys Waigeo. Treuliais ychydig ddyddiau ardderchog yn osgoi'r cawodydd glaw trwm dyddiol i chwilio am fwy o adar parawys, cuscus a poswmau.
Gallwch ddod o hyd i fwy o luniau a manylion am y taith (yn saesneg) yma...

Aderyn Paradwys Wilson (Diphyllodes respublica) ar Ynys Waigeo
-
28ed Medi- 5ed Hydref 2025
-
Ym mis Medi ymwelais â lle sydd wedi fy swyno ers blynyddoedd lawer... ynys o Papua, neu Gini Newydd. Gyda coedwig law anhygoel llawn anifeiliaid rhyfedd fel echidna, poswmau ac adar paradwys, dw i'n credu bod dyma'r daith anoddaf dw i erioed wedi'i chymryd, ond hefyd y mwyaf cyffrous! Adroddiad llawn (yn Saesneg) gyda mwy o luniau a fideos yma...

Western Long-beaked Echidna (Zaglossus bruijnii)
-
Mehefin 2025
-
Yn ystod cyfyngiad Covid 2020 penderfynais troi'r patio noeth, yng nghefn fy nhŷ yn ardd bywyd gwyllt. Nawr, pum mlynedd yn ddiweddarach, diolch i'r feithrinfa anhygoel Celtic Wildflowers mae'r ardd yn orlawn o flodau brodorol ac yn llawn bywyd gwyllt, gan gynnwys 13 rhywogaeth o flynydd y neidr, 22 gloÿnnod byw, 8 mamal gwyllt a llawer o adar, chwilod, gwenyn ac ati. Cliciwch yma am adroddiad llawn (yn Saesneg) gyda llawer mwy o luniau yn ogystal â rhai fideos a rhestrau o rywogaethau.

Cefn-nofiwr (Notonecta glauca) yn y pwll
-
18ed Tachwedd 2024
-
Mae'r pedwerydd llyfr yng nghyfres 'Wildlife of the World' nawr ar gael (yn saesneg). De Affrica yw un o leoliadau bioamrywiaeth gorau'r byd ac mae'r llyfr hwn yn cynnwys lluniau o anifeiliaid fel llewod i bengwiniaid, a meercathod i forfilod... ac llawr, llawr mwy!
Cliciwch yma ar gyfer manylion a dolen Amazon.
